Ecclesiasticus 2:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fy mab, pan fyddi'n nesáu i wasanaethu'r Arglwydd,paratoa dy hun i gael dy brofi.

2. Uniona dy galon a saf yn gadarn,a phaid â bod yn fyrbwyll pan ddaw aflwydd arnat.

3. Glŷn wrtho ef, paid â chefnu arno,er mwyn iti ffynnu yn niwedd dy ddyddiau.

4. Beth bynnag a fwrir arnat, derbyn ef,a bydd yn amyneddgar pan ddaw tro ar fyd i'th ddarostwng;

5. oherwydd trwy dân y caiff aur ei brofi,ac yn ffwrnais darostyngiad y gwneir pobl yn gymeradwy.

6. Ymddiried ynddo ef, ac fe'th gynorthwya;uniona dy lwybrau a gobeithia ynddo.

7. Chwi sy'n ofni'r Arglwydd, disgwyliwch wrth ei drugaredd;peidiwch â throi oddi wrtho, rhag ichwi syrthio.

8. Chwi sy'n ofni'r Arglwydd, ymddiriedwch ynddo,ac ni phalla eich gwobr byth.

9. Chwi sy'n ofni'r Arglwydd, gobeithiwch am ddaioni,am lawenydd tragwyddol a thrugaredd.

10. Ystyriwch y cenedlaethau gynt a daliwch sylw:Pwy erioed a ymddiriedodd yn yr Arglwydd a chael ei siomi?Neu pwy erioed a arhosodd yn ei ofn ef a chael ei wrthod?Neu pwy erioed a alwodd arno a chael i'r Arglwydd ei ddiystyru?

11. Oherwydd y mae'r Arglwydd yn dosturiol a thrugarog;y mae'n maddau pechodau ac yn achub yn amser cyfyngder.

12. Gwae'r calonnau llwfr a'r dwylo llesg,a'r pechadur sy'n ceisio dilyn dau lwybr!

Ecclesiasticus 2