Ecclesiasticus 19:8-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Paid ag adrodd hanes na chyfaill na gelyn,na datgelu ei gyfrinach, oni fydd tewi yn bechod ynot.

9. Oherwydd os bydd ef wedi dy glywed a chael achos i'th amau,bydd yntau yn ei dro yn dy gasáu di.

10. A glywaist ti hel straeon? Gad iddi farw gyda thi.Paid â phoeni, gelli eu chadw heb iti ffrwydro.

11. Y ffôl fydd mewn gwewyr am y straeon a daenir amdano,fel gwraig wrth esgor ar blentyn.

12. Fel saeth a lynodd ym morddwyd rhywun,felly y mae straeon ym mol y ffôl.

13. Hola gyfaill; dichon na wnaeth ddim,ac os gwnaeth, dichon nas gwna eto.

14. Hola dy gymydog; dichon na ddywedodd ddim,ac os dywedodd, dichon nas dywed eilwaith.

15. Hola gyfaill; oherwydd yn fynych enllib a gafodd;paid â choelio pob clep a glywi.

16. Gall rhywun lithro'n anfwriadol;pwy sydd na phechodd â'i dafod?

17. Hola dy gymydog cyn ei fygwth;rho ei chyfle i gyfraith y Goruchaf.

20. Ofn yr Arglwydd yw pob doethineb,a chynnwys pob doethineb yw cyflawni'r gyfraith.

22. Nid doethineb yw gwybodaeth o ddrygioni,ac nis ceir lle cyfrifir cyngor pechaduriaid yn synnwyr.

23. Y mae clyfrwch sydd eto'n ffiaidd,a cheir un ffôl nad yw ond yn brin o ddoethineb.

24. Gwell yw bod yn brin o ddeall, ac ofni Duw,na rhagori mewn synnwyr a throseddu'r gyfraith.

25. Y mae clyfrwch cywrain sydd eto'n anghyfiawn;a cheir rhywun sy'n ymwrthod â ffafr er mwyn amlygu cyfiawnder.

26. Y mae ambell adyn sy'n gwargrymu mewn dillad galar,a'i galon yn llawn twyll,

27. gan wyro'i wyneb tua'r llawr a chymryd arno bod yn fyddar;ac onid wyt wedi ei adnabod, fe gaiff y trechaf arnat.

Ecclesiasticus 19