Ecclesiasticus 19:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. ond llai fydd y niwed i'r sawl sy'n casáu clebran.

7. Paid byth ag ailadrodd gair a glywi,ac ni fyddi byth ar dy golled.

8. Paid ag adrodd hanes na chyfaill na gelyn,na datgelu ei gyfrinach, oni fydd tewi yn bechod ynot.

9. Oherwydd os bydd ef wedi dy glywed a chael achos i'th amau,bydd yntau yn ei dro yn dy gasáu di.

10. A glywaist ti hel straeon? Gad iddi farw gyda thi.Paid â phoeni, gelli eu chadw heb iti ffrwydro.

11. Y ffôl fydd mewn gwewyr am y straeon a daenir amdano,fel gwraig wrth esgor ar blentyn.

Ecclesiasticus 19