Ecclesiasticus 19:17-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Hola dy gymydog cyn ei fygwth;rho ei chyfle i gyfraith y Goruchaf.

20. Ofn yr Arglwydd yw pob doethineb,a chynnwys pob doethineb yw cyflawni'r gyfraith.

22. Nid doethineb yw gwybodaeth o ddrygioni,ac nis ceir lle cyfrifir cyngor pechaduriaid yn synnwyr.

23. Y mae clyfrwch sydd eto'n ffiaidd,a cheir un ffôl nad yw ond yn brin o ddoethineb.

24. Gwell yw bod yn brin o ddeall, ac ofni Duw,na rhagori mewn synnwyr a throseddu'r gyfraith.

25. Y mae clyfrwch cywrain sydd eto'n anghyfiawn;a cheir rhywun sy'n ymwrthod â ffafr er mwyn amlygu cyfiawnder.

26. Y mae ambell adyn sy'n gwargrymu mewn dillad galar,a'i galon yn llawn twyll,

27. gan wyro'i wyneb tua'r llawr a chymryd arno bod yn fyddar;ac onid wyt wedi ei adnabod, fe gaiff y trechaf arnat.

28. Os diffyg gallu fydd yn rhwystro rhywun rhag pechu,fe wna ddrwg ar y cyfle cyntaf.

29. Yn ôl yr olwg a geir arno yr adnabyddir rhywun,ac o'i gyfarfod wyneb yn wyneb yr adnabyddir y call.

30. Dillad rhywun, a'i geg agored wrth chwerthin,a'i gerddediad, sy'n dweud y cwbl amdano.

Ecclesiasticus 19