Ecclesiasticus 19:13-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Hola gyfaill; dichon na wnaeth ddim,ac os gwnaeth, dichon nas gwna eto.

14. Hola dy gymydog; dichon na ddywedodd ddim,ac os dywedodd, dichon nas dywed eilwaith.

15. Hola gyfaill; oherwydd yn fynych enllib a gafodd;paid â choelio pob clep a glywi.

16. Gall rhywun lithro'n anfwriadol;pwy sydd na phechodd â'i dafod?

17. Hola dy gymydog cyn ei fygwth;rho ei chyfle i gyfraith y Goruchaf.

20. Ofn yr Arglwydd yw pob doethineb,a chynnwys pob doethineb yw cyflawni'r gyfraith.

22. Nid doethineb yw gwybodaeth o ddrygioni,ac nis ceir lle cyfrifir cyngor pechaduriaid yn synnwyr.

23. Y mae clyfrwch sydd eto'n ffiaidd,a cheir un ffôl nad yw ond yn brin o ddoethineb.

24. Gwell yw bod yn brin o ddeall, ac ofni Duw,na rhagori mewn synnwyr a throseddu'r gyfraith.

Ecclesiasticus 19