Ecclesiasticus 19:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ni bydd meddwyn o weithiwr yn casglu cyfoeth,ac i lawr bob yn dipyn yr â'r sawl sy'n esgeulus o bethau bach.

2. Y mae gwin a mercheta yn arwain dynion call ar gyfeiliorn,a chynyddu mewn rhyfyg y bydd yr hwn sy'n ymlynu wrth buteiniaid.

3. Fe â'n ysglyfaeth i bydredd a phryfed;darfod amdano a wna'r rhyfygus.

4. Penwan yw'r parod ei ymddiriedaeth,ac er niwed iddo'i hun y mae rhywun yn pechu.

5. Collfarn sy'n aros y sawl sy'n ymfalchïo yn ei feddwl,

6. ond llai fydd y niwed i'r sawl sy'n casáu clebran.

Ecclesiasticus 19