1. Ni bydd meddwyn o weithiwr yn casglu cyfoeth,ac i lawr bob yn dipyn yr â'r sawl sy'n esgeulus o bethau bach.
2. Y mae gwin a mercheta yn arwain dynion call ar gyfeiliorn,a chynyddu mewn rhyfyg y bydd yr hwn sy'n ymlynu wrth buteiniaid.
3. Fe â'n ysglyfaeth i bydredd a phryfed;darfod amdano a wna'r rhyfygus.
4. Penwan yw'r parod ei ymddiriedaeth,ac er niwed iddo'i hun y mae rhywun yn pechu.
5. Collfarn sy'n aros y sawl sy'n ymfalchïo yn ei feddwl,
6. ond llai fydd y niwed i'r sawl sy'n casáu clebran.
7. Paid byth ag ailadrodd gair a glywi,ac ni fyddi byth ar dy golled.
8. Paid ag adrodd hanes na chyfaill na gelyn,na datgelu ei gyfrinach, oni fydd tewi yn bechod ynot.
9. Oherwydd os bydd ef wedi dy glywed a chael achos i'th amau,bydd yntau yn ei dro yn dy gasáu di.
10. A glywaist ti hel straeon? Gad iddi farw gyda thi.Paid â phoeni, gelli eu chadw heb iti ffrwydro.
11. Y ffôl fydd mewn gwewyr am y straeon a daenir amdano,fel gwraig wrth esgor ar blentyn.
12. Fel saeth a lynodd ym morddwyd rhywun,felly y mae straeon ym mol y ffôl.