Ecclesiasticus 18:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Y mae'r rhai sy'n fedrus ar eiriau hwythau'n ennill doethineb,ac yn llunio diarhebion cywrain yn llif.

30. Paid â dilyn dy chwantau,ond ymatal rhag porthi dy flysiau.

31. Os rhoddi i ti dy hun bopeth a fyn dy chwant,fe'th wna di'n gyff gwawd dy elynion.

32. Paid â gloddesta mewn moethusrwydd mawr,rhag iti gael dy dlodi gan gost y wledd.

33. Ymgadw rhag mynd yn dlawd trwy hel nwyddau gwledd ar goel,a thithau heb ddim yn dy bwrs.

Ecclesiasticus 18