Ecclesiasticus 18:26-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Gall dy ragolygon newid rhwng bore a hwyr;y mae popeth ar garlam, pan ewyllysia'r Arglwydd.

27. Bydd y doeth ar ei wyliadwriaeth bob amser;mewn dyddiau o bechod bydd yn ofalus rhag troseddu.

28. Y mae pob un deallus yn ymgydnabod â doethineb,a rhydd hi achos diolch i'r sawl a'i cafodd.

29. Y mae'r rhai sy'n fedrus ar eiriau hwythau'n ennill doethineb,ac yn llunio diarhebion cywrain yn llif.

30. Paid â dilyn dy chwantau,ond ymatal rhag porthi dy flysiau.

31. Os rhoddi i ti dy hun bopeth a fyn dy chwant,fe'th wna di'n gyff gwawd dy elynion.

32. Paid â gloddesta mewn moethusrwydd mawr,rhag iti gael dy dlodi gan gost y wledd.

33. Ymgadw rhag mynd yn dlawd trwy hel nwyddau gwledd ar goel,a thithau heb ddim yn dy bwrs.

Ecclesiasticus 18