Ecclesiasticus 18:22-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Paid â gadael i ddim dy rwystro rhag cyflawni adduned yn brydlon,a phaid ag oedi nes y byddi'n marw cyn cael gollyngdod oddi wrthi.

23. Cyn gwneud adduned paratoa dy hun,a phaid â bod fel rhywun yn gosod yr Arglwydd ar brawf.

24. Cofia'r digofaint a wynebi yn nyddiau dy ddiwedd,yn amser dial Duw, pan dry ymaith ei wyneb.

25. Yn amser digonedd, cofia amser newyn,ac yn nyddiau cyfoeth, cofia amser tlodi ac angen.

26. Gall dy ragolygon newid rhwng bore a hwyr;y mae popeth ar garlam, pan ewyllysia'r Arglwydd.

27. Bydd y doeth ar ei wyliadwriaeth bob amser;mewn dyddiau o bechod bydd yn ofalus rhag troseddu.

Ecclesiasticus 18