Ecclesiasticus 18:21-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Ymddarostwng cyn iti glafychu,a phan ddaw cyfle i bechu, dangos dy gefn iddo.

22. Paid â gadael i ddim dy rwystro rhag cyflawni adduned yn brydlon,a phaid ag oedi nes y byddi'n marw cyn cael gollyngdod oddi wrthi.

23. Cyn gwneud adduned paratoa dy hun,a phaid â bod fel rhywun yn gosod yr Arglwydd ar brawf.

24. Cofia'r digofaint a wynebi yn nyddiau dy ddiwedd,yn amser dial Duw, pan dry ymaith ei wyneb.

25. Yn amser digonedd, cofia amser newyn,ac yn nyddiau cyfoeth, cofia amser tlodi ac angen.

26. Gall dy ragolygon newid rhwng bore a hwyr;y mae popeth ar garlam, pan ewyllysia'r Arglwydd.

27. Bydd y doeth ar ei wyliadwriaeth bob amser;mewn dyddiau o bechod bydd yn ofalus rhag troseddu.

28. Y mae pob un deallus yn ymgydnabod â doethineb,a rhydd hi achos diolch i'r sawl a'i cafodd.

29. Y mae'r rhai sy'n fedrus ar eiriau hwythau'n ennill doethineb,ac yn llunio diarhebion cywrain yn llif.

30. Paid â dilyn dy chwantau,ond ymatal rhag porthi dy flysiau.

31. Os rhoddi i ti dy hun bopeth a fyn dy chwant,fe'th wna di'n gyff gwawd dy elynion.

32. Paid â gloddesta mewn moethusrwydd mawr,rhag iti gael dy dlodi gan gost y wledd.

33. Ymgadw rhag mynd yn dlawd trwy hel nwyddau gwledd ar goel,a thithau heb ddim yn dy bwrs.

Ecclesiasticus 18