13. Ei gymydog yw gwrthrych tosturi rhywun,ond y mae pawb yn wrthrych trugaredd yr Arglwydd;y mae'n ceryddu, yn hyfforddi, yn dysgu,ac yn eu dwyn yn ôl, fel bugail ei braidd.
14. Y mae'n trugarhau wrth y rhai sy'n derbyn disgyblaeth,ac wrth y rhai sy'n dyfal geisio ei ddyfarniadau.
15. Fy mab, paid â chlymu cerydd wrth dy gymwynas,na geiriau cas wrth yr un o'th roddion.
16. Onid yw'r gwlith yn lleddfu'r gwres tanbaid?Felly trech gair na rhodd.
17. Yn wir, onid rhagorach yw gair nag anrheg ddrud?Ceir y ddau gan rywun graslon.
18. Edliw'n ddiras y mae ynfytyn,ac y mae rhodd y crintachlyd yn achos dagrau.
19. Dysg cyn llefaru,a chymer ofal o'th iechyd cyn dod gwaeledd.
20. Chwilia dy hun cyn dod barn,a chei faddeuant yn nydd yr ymweliad.
21. Ymddarostwng cyn iti glafychu,a phan ddaw cyfle i bechu, dangos dy gefn iddo.
22. Paid â gadael i ddim dy rwystro rhag cyflawni adduned yn brydlon,a phaid ag oedi nes y byddi'n marw cyn cael gollyngdod oddi wrthi.
23. Cyn gwneud adduned paratoa dy hun,a phaid â bod fel rhywun yn gosod yr Arglwydd ar brawf.
24. Cofia'r digofaint a wynebi yn nyddiau dy ddiwedd,yn amser dial Duw, pan dry ymaith ei wyneb.
25. Yn amser digonedd, cofia amser newyn,ac yn nyddiau cyfoeth, cofia amser tlodi ac angen.
26. Gall dy ragolygon newid rhwng bore a hwyr;y mae popeth ar garlam, pan ewyllysia'r Arglwydd.
27. Bydd y doeth ar ei wyliadwriaeth bob amser;mewn dyddiau o bechod bydd yn ofalus rhag troseddu.
28. Y mae pob un deallus yn ymgydnabod â doethineb,a rhydd hi achos diolch i'r sawl a'i cafodd.
29. Y mae'r rhai sy'n fedrus ar eiriau hwythau'n ennill doethineb,ac yn llunio diarhebion cywrain yn llif.