Ecclesiasticus 18:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr hwn sy'n byw am byth a greodd bob peth fel ei gilydd;

2. yr Arglwydd yn unig sydd i'w gyfrif yn gyfiawn.

4. Ni roddodd gennad i neb i draethu ei weithredoedd;pwy a olrhain ei fawredd ef?

5. Pwy a fesur nerth ei fawrhydi,a phwy hefyd a all draethu'n llawn ei drugareddau ef?

6. Ni ellir cymryd dim oddi wrthynt nac ychwanegu dim atynt,ac ni ellir olrhain rhyfeddodau'r Arglwydd.

7. Pan ddaw rhywun i ben â'r gwaith, nid yw ond dechrau,a phan rydd y gorau iddo, caiff ei hun mewn penbleth.

8. Beth yw'r dynol, ac i beth y mae'n dda?Beth yw ei lwydd, a beth yw ei aflwydd?

9. Nid yw hyd ei einioes namyn can mlynedd ar y mwyaf.

10. Fel diferyn o ddŵr y môr neu ronyn o dywody mae ei ychydig flynyddoedd yn ymyl dydd tragwyddoldeb.

11. Dyna pam y mae'r Arglwydd yn ymarhous wrthyntac yn tywallt ei drugaredd arnynt.

Ecclesiasticus 18