Ecclesiasticus 17:15-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Y mae eu ffyrdd ger ei fron ef bob amser;ni chuddir hwy o'i olwg.

17. I bob cenedl penododd lywodraethwr,ond cyfran yr Arglwydd yw Israel.

19. Y mae eu holl weithredoedd mor glir iddo â'r haul,ac y mae ei lygaid ar eu ffyrdd yn wastadol.

20. Ni chuddiwyd eu hanghyfiawnder rhagddo;y mae eu holl bechodau gerbron yr Arglwydd.

22. Y mae elusennau rhywun fel sêl-fodrwy yn ei olwg,ac y mae'n trysori graslonrwydd fel cannwyll ei lygad.

23. Yn y diwedd bydd yn codi ac yn talu'n ôl i'r drwgweithredwyr,gan fwrw ar eu pennau eu cosb haeddiannol.

Ecclesiasticus 17