Ecclesiasticus 17:14-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Dywedodd wrthynt, “Gochelwch rhag pob anghyfiawnder,”a rhoes orchymyn i bob un ohonynt ynglŷn â'i gymydog.

15. Y mae eu ffyrdd ger ei fron ef bob amser;ni chuddir hwy o'i olwg.

17. I bob cenedl penododd lywodraethwr,ond cyfran yr Arglwydd yw Israel.

19. Y mae eu holl weithredoedd mor glir iddo â'r haul,ac y mae ei lygaid ar eu ffyrdd yn wastadol.

20. Ni chuddiwyd eu hanghyfiawnder rhagddo;y mae eu holl bechodau gerbron yr Arglwydd.

22. Y mae elusennau rhywun fel sêl-fodrwy yn ei olwg,ac y mae'n trysori graslonrwydd fel cannwyll ei lygad.

23. Yn y diwedd bydd yn codi ac yn talu'n ôl i'r drwgweithredwyr,gan fwrw ar eu pennau eu cosb haeddiannol.

24. Ond i'r edifeiriol y mae'n rhoi llwybr adferiad,ac yn calonogi'r diffygiol i ddyfalbarhau.

Ecclesiasticus 17