Ecclesiasticus 17:11-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Rhoddodd hefyd iddynt wybodaeth,a chyfraith bywyd yn etifeddiaeth.

12. Gwnaeth gyfamod tragwyddol â hwy,a dangos iddynt ei ddyfarniadau.

13. Gwelodd eu llygaid fawredd ei ogoniant,a chlywodd eu clust ogoniant ei lais.

14. Dywedodd wrthynt, “Gochelwch rhag pob anghyfiawnder,”a rhoes orchymyn i bob un ohonynt ynglŷn â'i gymydog.

15. Y mae eu ffyrdd ger ei fron ef bob amser;ni chuddir hwy o'i olwg.

17. I bob cenedl penododd lywodraethwr,ond cyfran yr Arglwydd yw Israel.

19. Y mae eu holl weithredoedd mor glir iddo â'r haul,ac y mae ei lygaid ar eu ffyrdd yn wastadol.

20. Ni chuddiwyd eu hanghyfiawnder rhagddo;y mae eu holl bechodau gerbron yr Arglwydd.

22. Y mae elusennau rhywun fel sêl-fodrwy yn ei olwg,ac y mae'n trysori graslonrwydd fel cannwyll ei lygad.

23. Yn y diwedd bydd yn codi ac yn talu'n ôl i'r drwgweithredwyr,gan fwrw ar eu pennau eu cosb haeddiannol.

24. Ond i'r edifeiriol y mae'n rhoi llwybr adferiad,ac yn calonogi'r diffygiol i ddyfalbarhau.

25. Tro at yr Arglwydd a chefna ar bechodau;gweddïa ger ei fron a lleiha dy gamwedd.

26. Dychwel at y Goruchaf a thro oddi wrth anghyfiawnder,a bydd fawr dy gasineb at y ffieiddbeth.

27. Pwy a glodfora'r Goruchaf yn Nhrigfan y Meirw,a chymryd lle'r byw i'w foliannu yn y côr?

28. Pan fydd rhywun farw, derfydd ei foliant fel petai ef wedi peidio â bod;y sawl sy'n fyw ac yn iach a glodfora'r Arglwydd.

Ecclesiasticus 17