Ecclesiasticus 16:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. rhoes i'w weithredoedd drefn dragwyddol,a blaenoriaeth iddynt ar hyd y cenedlaethau.Nid ydynt yn newynu nac yn blino,nac yn rhoi'r gorau i'w gwaith.

28. Nid yw'r un ohonynt yn gwasgu ar ei gymydog,ac ni fyddant byth yn anufudd i'w air ef.

29. Ar ôl hyn edrychodd yr Arglwydd ar y ddaeara'i llenwi â'i ddoniau da.

30. Gorchuddiodd wyneb y ddaear â phob math o greaduriaid byw,ac i'r ddaear y byddant oll yn dychwelyd.

Ecclesiasticus 16