Ecclesiasticus 16:21-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Fel tymestl a ddaw heb i neb ei gweld,y mae ei weithredoedd ef gan amlaf yn y dirgel.

22. Pwy a draetha ofynion ei gyfiawnder?Pwy a ddisgwyl amdanynt? Oherwydd pell yw ei gyfamod.

23. Rhywun penwan sy'n dyfalu'r pethau hyn,ie, rhywun ffôl ar gyfeiliorn yn dyfalu ffolineb.

24. Gwrando arnaf, fy mab, a dysg wybodaeth;dal sylw gofalus ar fy ngeiriau.

25. Dangosaf yn gytbwys beth yw addysg,a mynegaf yn fanwl beth yw gwybodaeth.

26. Pan greodd yr Arglwydd ei weithredoedd yn y dechrau,a gosod i bob un ei derfynau o'i wneuthuriad,

27. rhoes i'w weithredoedd drefn dragwyddol,a blaenoriaeth iddynt ar hyd y cenedlaethau.Nid ydynt yn newynu nac yn blino,nac yn rhoi'r gorau i'w gwaith.

Ecclesiasticus 16