Ecclesiasticus 16:14-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Caiff pob gweithred o drugaredd ei chyfle,a phawb ei drin yn ôl ei weithredoedd.

17. Paid â dweud, “Ymguddiaf oddi wrth yr Arglwydd;pwy yn yr uchelder a gofia amdanaf?Ymhlith pobl mor lluosog ni sylwir arnaf fi;beth yw fy mywyd i mewn creadigaeth na ellir ei mesur?”

18. Wele'r nefoedd, a nef y nefoedd,y dyfnder diwaelod a'r ddaear, fe'u hysgydwir ar ei ymweliad ef.

19. Y mynyddoedd, ynghyd â seiliau'r ddaear,ysgydwant a chrynant dan ei edrychiad ef.

20. Ni all meddwl dynol ddirnad y pethau hyn;pwy all amgyffred ei ffyrdd ef?

21. Fel tymestl a ddaw heb i neb ei gweld,y mae ei weithredoedd ef gan amlaf yn y dirgel.

Ecclesiasticus 16