Ecclesiasticus 15:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Nid gweddus moliant yng ngenau pechadur,oherwydd nis anfonwyd gan yr Arglwydd.

10. Trwy ddoethineb y mynegir mawl,a'r Arglwydd sy'n ei hyrwyddo.

11. Paid â dweud, “Yr Arglwydd a barodd imi gwympo”,oherwydd ti sydd i beidio â gwneud yr hyn sy'n gas ganddo ef.

12. Paid â dweud, “Ef a'm harweiniodd ar gyfeiliorn”,oherwydd nid oes angen y pechadurus arno ef.

13. Y mae pob ffieiddbeth yn gas gan yr Arglwydd,ac nis cerir chwaith gan y rhai sy'n ei ofni ef.

14. Ef yn y dechreuad a wnaeth ddyn,a'i adael i'w dywys gan ei ewyllys ei hun.

Ecclesiasticus 15