Ecclesiasticus 15:14-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Ef yn y dechreuad a wnaeth ddyn,a'i adael i'w dywys gan ei ewyllys ei hun.

15. Os mynni, cei gadw ei orchmynion;ti biau'r dewis i weithredu'n ffyddlon.

16. Gosodwyd o'th flaen ddŵr a thân;cei estyn dy law at b'run bynnag a fynni.

17. Gerbron pob un y mae bywyd a marwolaeth,a ph'run bynnag a ddewis a roddir iddo.

18. Oherwydd mawr yw doethineb yr Arglwydd;cryf a galluog yw, ac yn gweld pob peth.

19. Y mae ei lygaid ar y rhai a'i hofna,a hysbys iddo fydd holl weithredoedd pawb.

20. Ni orchmynnodd i neb ymddwyn yn annuwiol,na rhoi cennad iddo i bechu.

Ecclesiasticus 15