Ecclesiasticus 14:9-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Nid yw llygad y trachwantus yn fodlon ar ei gyfran,ac y mae ei anghyfiawnder creulon yn crebachu ei enaid.

10. Y mae llygad creulon yn eiddigeddus am ei fara,a llwm yw'r bwrdd a hulia.

11. Fy mab, yn ôl yr hyn sydd gennyt, bydd yn hael wrthyt ti dy hun;offryma hefyd ebyrth teilwng i'r Arglwydd.

12. Cofia nad yw marwolaeth yn oedi,ac na hysbyswyd iti pa bryd yr wyt i gadw dy oed â Thrigfan y Meirw.

13. Cyn iti farw, bydd yn hael wrth dy gyfaill;estyn dy law a rho iddo gymaint ag a elli.

14. Paid â'th amddifadu dy hun o ddiwrnod o fwynhad,na cholli un dim o'r hyfrydwch yr wyt yn ei chwennych.

15. Onid gadael ffrwyth dy lafur a'th luddedi arall y byddi, i'w rannu â choelbren?

16. Rho, a derbyn, a difyrra dy hun,oherwydd ofer yw ceisio moethau yn Nhrigfan y Meirw.

17. Y mae pob un yn heneiddio fel dilledyn;y mae wedi ei bennu o'r dechreuad: “Marw fyddi.”

18. Fel dail toreithiog yn drwch ar bren,rhai'n cwympo a rhai'n blaguro,felly y mae cenedlaethau cig a gwaed—y naill yn marw a'r llall yn cael ei eni.

19. Pydru y mae pob gwaith, a pheidio â bod,ac y mae'r gweithiwr yntau'n mynd i ganlyn ei waith.

20. Gwyn ei fyd y sawl a fyfyria ar ddoethinebac a ddengys ei ddeall yn ei ymddiddan;

21. y sawl sy'n gosod ei fryd ar ei ffyrdd hia gaiff amgyffred hefyd ei chyfrinachau.

22. Dos ar ei hôl hi fel heliwr,a gosod fagl i'w dal yn ei llwybrau.

Ecclesiasticus 14