Ecclesiasticus 14:6-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Nid oes neb creulonach na'r sawl sy'n gybyddlyd ag ef ei hun;dyna'i wobr am ei grintachrwydd.

7. Hyd yn oed os yw'n hael, nid yw felly o fwriad,ac yn y diwedd amlygir ei grintachrwydd.

8. Creulon yw'r sawl sydd â llygad cybydd ganddo;y mae'n troi ei wyneb ymaith ac yn diystyru pobl eraill.

9. Nid yw llygad y trachwantus yn fodlon ar ei gyfran,ac y mae ei anghyfiawnder creulon yn crebachu ei enaid.

10. Y mae llygad creulon yn eiddigeddus am ei fara,a llwm yw'r bwrdd a hulia.

11. Fy mab, yn ôl yr hyn sydd gennyt, bydd yn hael wrthyt ti dy hun;offryma hefyd ebyrth teilwng i'r Arglwydd.

12. Cofia nad yw marwolaeth yn oedi,ac na hysbyswyd iti pa bryd yr wyt i gadw dy oed â Thrigfan y Meirw.

13. Cyn iti farw, bydd yn hael wrth dy gyfaill;estyn dy law a rho iddo gymaint ag a elli.

14. Paid â'th amddifadu dy hun o ddiwrnod o fwynhad,na cholli un dim o'r hyfrydwch yr wyt yn ei chwennych.

15. Onid gadael ffrwyth dy lafur a'th luddedi arall y byddi, i'w rannu â choelbren?

16. Rho, a derbyn, a difyrra dy hun,oherwydd ofer yw ceisio moethau yn Nhrigfan y Meirw.

17. Y mae pob un yn heneiddio fel dilledyn;y mae wedi ei bennu o'r dechreuad: “Marw fyddi.”

18. Fel dail toreithiog yn drwch ar bren,rhai'n cwympo a rhai'n blaguro,felly y mae cenedlaethau cig a gwaed—y naill yn marw a'r llall yn cael ei eni.

19. Pydru y mae pob gwaith, a pheidio â bod,ac y mae'r gweithiwr yntau'n mynd i ganlyn ei waith.

Ecclesiasticus 14