Ecclesiasticus 14:21-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. y sawl sy'n gosod ei fryd ar ei ffyrdd hia gaiff amgyffred hefyd ei chyfrinachau.

22. Dos ar ei hôl hi fel heliwr,a gosod fagl i'w dal yn ei llwybrau.

23. Y sawl sy'n sbïo trwy ei ffenestriac yn clustfeinio wrth ei drysau,

24. yn codi ei lety yn ymyl ei thŷac yn ei hoelio wrth ei muriau hi,

25. caiff hwnnw osod ei babell gerllaw iddia lletya yn llety'r goreuon;

26. caiff osod ei blant dan ei chysgoda gorffwys dan ei changhennau.

Ecclesiasticus 14