10. Y mae llygad creulon yn eiddigeddus am ei fara,a llwm yw'r bwrdd a hulia.
11. Fy mab, yn ôl yr hyn sydd gennyt, bydd yn hael wrthyt ti dy hun;offryma hefyd ebyrth teilwng i'r Arglwydd.
12. Cofia nad yw marwolaeth yn oedi,ac na hysbyswyd iti pa bryd yr wyt i gadw dy oed â Thrigfan y Meirw.
13. Cyn iti farw, bydd yn hael wrth dy gyfaill;estyn dy law a rho iddo gymaint ag a elli.
14. Paid â'th amddifadu dy hun o ddiwrnod o fwynhad,na cholli un dim o'r hyfrydwch yr wyt yn ei chwennych.
15. Onid gadael ffrwyth dy lafur a'th luddedi arall y byddi, i'w rannu â choelbren?
16. Rho, a derbyn, a difyrra dy hun,oherwydd ofer yw ceisio moethau yn Nhrigfan y Meirw.
17. Y mae pob un yn heneiddio fel dilledyn;y mae wedi ei bennu o'r dechreuad: “Marw fyddi.”
18. Fel dail toreithiog yn drwch ar bren,rhai'n cwympo a rhai'n blaguro,felly y mae cenedlaethau cig a gwaed—y naill yn marw a'r llall yn cael ei eni.
19. Pydru y mae pob gwaith, a pheidio â bod,ac y mae'r gweithiwr yntau'n mynd i ganlyn ei waith.
20. Gwyn ei fyd y sawl a fyfyria ar ddoethinebac a ddengys ei ddeall yn ei ymddiddan;
21. y sawl sy'n gosod ei fryd ar ei ffyrdd hia gaiff amgyffred hefyd ei chyfrinachau.