Ecclesiasticus 13:11-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Paid â beiddio siarad ag ef fel un cydradd,a phaid ag ymddiried yn amlder ei eiriau,oherwydd rhoi prawf arnat y bydd â'i siarad hir,a'th chwilio a gwên ar ei wyneb.

12. Didrugaredd yw'r sawl nad yw'n cadw dy gyfrinachau,ac ni'th arbed rhag drygfyd na charchar.

13. Cadw dy gyfrinach i ti dy hun a chymer ofal mawr,oherwydd cerdded yr wyt ar ymyl y dibyn.

15. Y mae pob anifail yn caru ei debyg,a phob un dynol ei gymydog.

16. Y mae'r holl greaduriaid yn ymgasglu yn ôl eu rhywogaeth,a'r dynol yn ymlynu wrth ei debyg.

17. Pa gymdeithas fydd rhwng blaidd ac oen?Felly y mae rhwng y pechadurus a'r duwiol.

18. Pa heddwch fydd rhwng udfil a chi?A pha heddwch rhwng cyfoethog a thlawd?

19. Helfa i lewod yw asynnod gwylltion yr anialwch;a phorfa i gyfoethogion yw'r tlodion yr un modd.

20. Ffieiddbeth i'r balch yw gostyngeiddrwydd,a ffieiddbeth hefyd yw'r tlawd i'r cyfoethog.

21. Pan fydd rhywun cyfoethog yn simsanu, bydd ei gyfeillion yn ei gynnal;ond pan fydd rhywun distadl yn cwympo, ei wthio ymhellach y bydd ei gyfeillion.

22. Pan fydd y cyfoethog yn llithro, daw llawer i'w gynorthwyo;er iddo lefaru geiriau anweddus, ei esgusodi a wnânt.Pan fydd y distadl yn llithro, ei geryddu y bydd pobl;er iddo siarad synnwyr, ni roddir cyfle iddo.

23. Pan fydd y cyfoethog yn llefaru, bydd pawb yn ddistaw,ac yn canmol ei araith hyd y cymylau.Pan fydd y tlawd yn llefaru, gofynnant, “Pwy yw hwn?”Ac os digwydd iddo faglu, rhônt help iddo i syrthio.

Ecclesiasticus 13