10. Paid byth ag ymddiried yn dy elyn,oherwydd y mae ei ddrygioni'n difa fel rhwd ar bres.
11. Er iddo ymostwng a rhodio'n benisel,gwylia dy hun a gochel rhagddo;byddi iddo ef fel un sy'n gloywi drych,a chei wybod nad yw wedi gorffen rhydu.
12. Paid â'i osod i sefyll yn dy ymyl,rhag iddo dy ddisodli a sefyll yn dy le.Paid â'i roi i eistedd ar dy law dde,rhag iddo geisio cael dy gadair di;yn y diwedd fe weli ystyr fy ngeiriau,a chael dy ddwysbigo gan yr hyn a ddywedais.
13. Pwy sy'n tosturio wrth swynwr-nadredd a frathwyd,neu wrth bawb sy'n ymwneud ag anifeiliaid gwylltion?
14. Felly gyda'r sawl sy'n closio at bechadurac yn ymgolli yn ei bechodau ef.
15. Am awr yr erys ef gyda thi,ac os llithro a wnei, ni lŷn wrthyt.
16. Y mae gwefusau'r gelyn yn diferu melyster,ond yn ei galon y mae'n cynllwynio i'th fwrw i bydew.Y mae llygaid y gelyn yn colli dagrau,ond os caiff gyfle, ni fydd tywallt gwaed yn ddigon ganddo.
17. Os daw drygfyd arnat, cei ei fod ef yno o'th flaen,yn cymryd arno dy helpu ond yn baglu dy droed.
18. Bydd yn ysgwyd ei ben ac yn curo'i ddwylo,yn clebran llawer ac yn newid ei wedd.