Ecclesiasticus 11:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Y mae'n cynllwynio i droi llwydd yn aflwydd,ac i ddangos diffyg yn y cyflawniadau gorau.

32. Gall gwreichionen fach gynnau llwyth o lo;ac y mae'r pechadurus yn cynllwynio i dywallt gwaed.

33. Gochel rhag drwgweithredwr sy'n dyfeisio drwg yn dy erbyn,rhag iddo dy gael i fai a bery am byth.

34. Derbyn ddieithryn i'th dŷ, a bydd yn tarfu arnat a'th gyffroi,a'th ddieithrio oddi wrth dy bobl dy hun.

Ecclesiasticus 11