Ecclesiasticus 11:13-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. ac yn dyrchafu ei ben ef,nes bod llawer yn rhyfeddu ato.

14. Llwydd ac aflwydd, bywyd a marwolaeth,tlodi a chyfoeth, oddi wrth yr Arglwydd y deuant i gyd.

17. Y mae rhodd yr Arglwydd yn para'n eiddo i'r rhai duwiol,a'i gymeradwyaeth yn hyrwyddo'u taith am byth.

18. Gall rhywun ymgyfoethogi trwy ofalu a chynilo,a dyna'r cwbl a gaiff yn gyflog.

19. Pan ddywed, “Yr wyf wedi ennill fy ngorffwys;bellach caf fyw ar fy meddiannau”,nid yw'n gwybod faint o amser sydd i'w dreuliocyn marw a gadael ei eiddo i eraill.

20. Saf wrth dy gyfamod a gweithreda'n unol ag ef;heneiddia wrth dy waith.

21. Paid â rhyfeddu at weithredoedd pechadur;cred yr Arglwydd a dal ati yn dy lafur,oherwydd peth hawdd yng ngolwg yr Arglwyddyw gwneud y tlawd yn gyfoethog yn ddisymwth ac yn ddiymdroi.

Ecclesiasticus 11