Ecclesiasticus 10:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Symudir y frenhiniaeth o'r naill genedl i'r llallo achos anghyfiawnder a rhyfyg ac ariangarwch.

9. Pam yr ymfalchïa llwch a lludw?Oherwydd yswyd ei gorff gan bryfed, ac yntau'n fyw.

10. Y mae afiechyd hir yn gwawdio gallu'r meddyg;gall dyn fod yn frenin heddiw ac yn farw yfory.

11. Oherwydd pan fydd rhywun farw,ymlusgiaid a bwystfilod a phryfed fydd ei etifeddiaeth.

12. Dechrau balchder rhywun yw ymadael â'r Arglwydd,a'i galon wedi cefnu ar ei Greawdwr.

13. Oherwydd pechod yw dechrau balchder,ac y mae'r sawl sy'n glynu wrtho yn tywallt allan ffieidd-dra.Am hynny achosodd yr Arglwydd drallodion rhyfeddol,a llwyr ddinistrio'r rhai balch.

Ecclesiasticus 10