Ecclesiasticus 10:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yn llaw'r Arglwydd y mae awdurdod ar y ddaear,ac ef, yn yr amser priodol, fydd yn gosod un cymwys yn ben arni.

5. Yn llaw'r Arglwydd y mae ffyniant pawb,ac ef sy'n gosod ei anrhydedd ar berson y deddfwr.

6. Paid â digio wrth dy gymydog am bob rhyw gam,a phaid â gwneud dim trwy weithredoedd rhyfygus.

7. Casbeth yng ngolwg yr Arglwydd a phobl yw balchder,a gwrthun gan y naill a'r llall yw anghyfiawnder.

Ecclesiasticus 10