Ecclesiasticus 10:17-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Symudodd rai ohonynt o'u lle a'u difa,a pheri i'w coffadwriaeth ddarfod oddi ar y ddaear.

18. Ni chrewyd balchder ar gyfer dynion,na dicter llidiog ar gyfer plant gwragedd.

19. Pa had sydd i'w barchu? Had dyn.Pa had sydd i'w barchu? Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd.Pa had nad yw i'w barchu? Had dyn.Pa had nad yw i'w barchu? Y rhai sy'n torri'r gorchmynion.

20. Yn y teulu, eu pennaeth sydd i'w barchu;ac yng ngolwg yr Arglwydd, y rhai sy'n ei ofni ef.

22. Y cyfoethog, yr anrhydeddus, a'r tlawd,ofn yr Arglwydd yw eu hymffrost bob un.

23. Nid yw'n gyfiawn amharchu'r tlawd sy'n ddeallus,ac nid yw'n weddus anrhydeddu'r pechadurus.

24. Anrhydeddir y gŵr mawr, y barnwr, a'r llywodraethwr;ond nid yw'r un ohonynt mor fawr â hwnnw sy'n ofni'r Arglwydd.

25. Caiff caethwas doeth rai rhydd i weini arno,ac ni bydd neb call yn cwyno.

26. Paid â bod yn rhy ddoeth i wneud dy waith,na'th fawrhau dy hun pan yw'n gyfyng arnat.

27. Gwell yw gweithio, a bod ar ben dy ddigon o bopeth,na'th fawrhau dy hun a bod heb fara.

28. Fy mab, gogonedda dy hun mewn gwyleidd-dra,ac anrhydedda dy hun yn ôl dy deilyngdod.

29. Pwy a gyfiawnha'r sawl sy'n pechu yn ei erbyn ei hun?A phwy a anrhydedda'r sawl sy'n ei amharchu ei hun?

Ecclesiasticus 10