Ecclesiasticus 10:11-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Oherwydd pan fydd rhywun farw,ymlusgiaid a bwystfilod a phryfed fydd ei etifeddiaeth.

12. Dechrau balchder rhywun yw ymadael â'r Arglwydd,a'i galon wedi cefnu ar ei Greawdwr.

13. Oherwydd pechod yw dechrau balchder,ac y mae'r sawl sy'n glynu wrtho yn tywallt allan ffieidd-dra.Am hynny achosodd yr Arglwydd drallodion rhyfeddol,a llwyr ddinistrio'r rhai balch.

14. Dymchwelodd yr Arglwydd orseddau tywysogion,a gosod rhai addfwyn i eistedd yn eu lle.

15. Diwreiddiodd yr Arglwydd genhedloedd,a phlannu rhai gostyngedig yn eu lle.

16. Dinistriodd yr Arglwydd diroedd cenhedloedd,a'u difa hyd at seiliau'r ddaear.

17. Symudodd rai ohonynt o'u lle a'u difa,a pheri i'w coffadwriaeth ddarfod oddi ar y ddaear.

Ecclesiasticus 10