Ecclesiasticus 10:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Bydd rheolwr doeth yn hyfforddi ei bobl,a bydd llywodraeth un deallus wedi ei threfnu'n drwyadl.

2. Fel y mae rheolwr y bobl, felly hefyd ei weinidogion;ac fel y mae llywodraethwr y ddinas, felly ei thrigolion oll.

3. Bydd brenin diaddysg yn ddinistr i'w bobl;ond cyfanheddir dinas trwy ddeall ei llywodraethwyr.

4. Yn llaw'r Arglwydd y mae awdurdod ar y ddaear,ac ef, yn yr amser priodol, fydd yn gosod un cymwys yn ben arni.

5. Yn llaw'r Arglwydd y mae ffyniant pawb,ac ef sy'n gosod ei anrhydedd ar berson y deddfwr.

Ecclesiasticus 10