8. Y mae Un sy'n ddoeth, ac i'w ofni'n ddirfawr,Un sy'n eistedd ar ei orsedd—
9. ef yw'r Arglwydd, ac ef a greodd ddoethineb;ef a'i canfu hi, a'i dosrannu,a'i harllwys ar ei holl weithredoedd.
10. I bob un y mae cyfran ohoni, yn ôl ei roddiad ef,ond rhoddodd yn hael ohoni i'r rhai sy'n ei garu.
11. Y mae ofn yr Arglwydd yn achos anrhydedd ac ymffrost,llawenydd a thorch gorfoledd.
12. Bydd ofn yr Arglwydd yn llonni'r galon,yn rhoi llawenydd a dedwyddwch a hir ddyddiau.
13. Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd, da fydd ei ran yn y diwedd,ac yn nydd ei farwolaeth fe'i bendithir.
14. Ofni'r Arglwydd yw dechrau doethineb;crewyd hi gyda'r rhai ffyddlon yng nghroth eu mam.
15. Gyda phobl y gwnaeth ei chartref tragwyddol,a chyda'u plant fe'i ceir yn un i ymddiried ynddi.
16. Ofni'r Arglwydd yw cyflawnder doethineb;o'i ffrwythau fe rydd iddynt ddigonedd o win.
17. Fe leinw eu holl dŷ hwy â'i phethau dymunol,a'u hysguboriau â'i chnydau.
18. Ofn yr Arglwydd yw torch doethineb,a thangnefedd a hoen iechyd yn flodau arni.