Ecclesiasticus 1:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Oherwydd ofn yr Arglwydd yw doethineb ac addysg;a ffydd ac addfwynder sy'n rhyngu ei fodd ef.

28. Paid ag anwybyddu ofn yr Arglwydd,a phaid â nesáu ato â meddwl dauddyblyg.

29. Paid â rhagrithio o flaen pobl,a gwylia'n ofalus eiriau dy wefusau.

30. Paid â'th ddyrchafu dy hun, rhag iti syrthioa dwyn amarch arnat dy hun;fe ddatguddia'r Arglwydd dy gyfrinachau,a'th fwrw i lawr yng nghanol y gynulleidfa,am iti beidio â nesáu yn ofn yr Arglwydd,ac am fod dy galon yn llawn twyll.

Ecclesiasticus 1