Ecclesiasticus 1:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Os wyt yn chwennych doethineb, cadw'r gorchmynion,a rhydd yr Arglwydd iti yn hael ohoni.

27. Oherwydd ofn yr Arglwydd yw doethineb ac addysg;a ffydd ac addfwynder sy'n rhyngu ei fodd ef.

28. Paid ag anwybyddu ofn yr Arglwydd,a phaid â nesáu ato â meddwl dauddyblyg.

29. Paid â rhagrithio o flaen pobl,a gwylia'n ofalus eiriau dy wefusau.

30. Paid â'th ddyrchafu dy hun, rhag iti syrthioa dwyn amarch arnat dy hun;fe ddatguddia'r Arglwydd dy gyfrinachau,a'th fwrw i lawr yng nghanol y gynulleidfa,am iti beidio â nesáu yn ofn yr Arglwydd,ac am fod dy galon yn llawn twyll.

Ecclesiasticus 1