Ecclesiasticus 1:20-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Ofni'r Arglwydd yw gwreiddyn doethineb,a hir ddyddiau yw ei changhennau hi.

22. Ni ellir cyfiawnhau dicter anghyfiawn,oherwydd pan dry ei ddicter y dafol cwympo a wna dyn.

23. Bydd un da ei amynedd yn ymarhous nes dyfod ei awr,ac yna bydd llawenydd yn torri arno.

24. Bydd yn cadw ei feddyliau'n gudd nes dyfod ei awr,ac yna bydd gwefusau llaweroedd yn traethu ei synnwyr ef.

25. Yn ystordai doethineb mae dirgelion gwybodaeth,ond ffieiddbeth i'r pechadur yw duwioldeb.

26. Os wyt yn chwennych doethineb, cadw'r gorchmynion,a rhydd yr Arglwydd iti yn hael ohoni.

27. Oherwydd ofn yr Arglwydd yw doethineb ac addysg;a ffydd ac addfwynder sy'n rhyngu ei fodd ef.

28. Paid ag anwybyddu ofn yr Arglwydd,a phaid â nesáu ato â meddwl dauddyblyg.

29. Paid â rhagrithio o flaen pobl,a gwylia'n ofalus eiriau dy wefusau.

30. Paid â'th ddyrchafu dy hun, rhag iti syrthioa dwyn amarch arnat dy hun;fe ddatguddia'r Arglwydd dy gyfrinachau,a'th fwrw i lawr yng nghanol y gynulleidfa,am iti beidio â nesáu yn ofn yr Arglwydd,ac am fod dy galon yn llawn twyll.

Ecclesiasticus 1