Ecclesiasticus 1:15-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Gyda phobl y gwnaeth ei chartref tragwyddol,a chyda'u plant fe'i ceir yn un i ymddiried ynddi.

16. Ofni'r Arglwydd yw cyflawnder doethineb;o'i ffrwythau fe rydd iddynt ddigonedd o win.

17. Fe leinw eu holl dŷ hwy â'i phethau dymunol,a'u hysguboriau â'i chnydau.

18. Ofn yr Arglwydd yw torch doethineb,a thangnefedd a hoen iechyd yn flodau arni.

19. Ef a'i canfu hi, a'i dosrannu;glawiodd fedrusrwydd a phwyll gwybodaeth,a dyrchafodd i ogoniant y rhai sy'n glynu wrthi.

20. Ofni'r Arglwydd yw gwreiddyn doethineb,a hir ddyddiau yw ei changhennau hi.

22. Ni ellir cyfiawnhau dicter anghyfiawn,oherwydd pan dry ei ddicter y dafol cwympo a wna dyn.

23. Bydd un da ei amynedd yn ymarhous nes dyfod ei awr,ac yna bydd llawenydd yn torri arno.

24. Bydd yn cadw ei feddyliau'n gudd nes dyfod ei awr,ac yna bydd gwefusau llaweroedd yn traethu ei synnwyr ef.

Ecclesiasticus 1