Ecclesiasticus 1:12-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Bydd ofn yr Arglwydd yn llonni'r galon,yn rhoi llawenydd a dedwyddwch a hir ddyddiau.

13. Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd, da fydd ei ran yn y diwedd,ac yn nydd ei farwolaeth fe'i bendithir.

14. Ofni'r Arglwydd yw dechrau doethineb;crewyd hi gyda'r rhai ffyddlon yng nghroth eu mam.

15. Gyda phobl y gwnaeth ei chartref tragwyddol,a chyda'u plant fe'i ceir yn un i ymddiried ynddi.

16. Ofni'r Arglwydd yw cyflawnder doethineb;o'i ffrwythau fe rydd iddynt ddigonedd o win.

17. Fe leinw eu holl dŷ hwy â'i phethau dymunol,a'u hysguboriau â'i chnydau.

18. Ofn yr Arglwydd yw torch doethineb,a thangnefedd a hoen iechyd yn flodau arni.

19. Ef a'i canfu hi, a'i dosrannu;glawiodd fedrusrwydd a phwyll gwybodaeth,a dyrchafodd i ogoniant y rhai sy'n glynu wrthi.

20. Ofni'r Arglwydd yw gwreiddyn doethineb,a hir ddyddiau yw ei changhennau hi.

Ecclesiasticus 1