Ecclesiasticus 1:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. I bob un y mae cyfran ohoni, yn ôl ei roddiad ef,ond rhoddodd yn hael ohoni i'r rhai sy'n ei garu.

11. Y mae ofn yr Arglwydd yn achos anrhydedd ac ymffrost,llawenydd a thorch gorfoledd.

12. Bydd ofn yr Arglwydd yn llonni'r galon,yn rhoi llawenydd a dedwyddwch a hir ddyddiau.

13. Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd, da fydd ei ran yn y diwedd,ac yn nydd ei farwolaeth fe'i bendithir.

14. Ofni'r Arglwydd yw dechrau doethineb;crewyd hi gyda'r rhai ffyddlon yng nghroth eu mam.

Ecclesiasticus 1