Ecclesiasticus 1:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Oddi wrth yr Arglwydd y daw pob doethineb,a chydag ef y mae am byth.

2. Tywod y môr, a dafnau'r glaw,a dyddiau tragwyddoldeb, pwy all eu rhifo?

3. Uchder y nef, a lled y ddaear,a'r dyfnder diwaelod, a doethineb, pwy all eu holrhain?

4. Y mae doethineb wedi ei chreu o flaen pob peth,a phwyll dealltwriaeth yn bod erioed.

6. I bwy y datguddiwyd gwreiddyn doethineb?Pwy sy'n deall ei dyfeisiau hi?

8. Y mae Un sy'n ddoeth, ac i'w ofni'n ddirfawr,Un sy'n eistedd ar ei orsedd—

9. ef yw'r Arglwydd, ac ef a greodd ddoethineb;ef a'i canfu hi, a'i dosrannu,a'i harllwys ar ei holl weithredoedd.

10. I bob un y mae cyfran ohoni, yn ôl ei roddiad ef,ond rhoddodd yn hael ohoni i'r rhai sy'n ei garu.

11. Y mae ofn yr Arglwydd yn achos anrhydedd ac ymffrost,llawenydd a thorch gorfoledd.

12. Bydd ofn yr Arglwydd yn llonni'r galon,yn rhoi llawenydd a dedwyddwch a hir ddyddiau.

13. Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd, da fydd ei ran yn y diwedd,ac yn nydd ei farwolaeth fe'i bendithir.

14. Ofni'r Arglwydd yw dechrau doethineb;crewyd hi gyda'r rhai ffyddlon yng nghroth eu mam.

15. Gyda phobl y gwnaeth ei chartref tragwyddol,a chyda'u plant fe'i ceir yn un i ymddiried ynddi.

16. Ofni'r Arglwydd yw cyflawnder doethineb;o'i ffrwythau fe rydd iddynt ddigonedd o win.

17. Fe leinw eu holl dŷ hwy â'i phethau dymunol,a'u hysguboriau â'i chnydau.

Ecclesiasticus 1