Doethineb Solomon 5:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Felly ninnau hefyd, dod a wnaethom, a darfod,ac nid oedd gennym yr un arwydd o rinwedd i'w ddangos;na, fe'n hafradwyd yn llwyr gan ein drygioni.”

14. Oherwydd y mae gobaith yr annuwiol fel us a yrrir gan y gwynt,ac fel barrug ysgafn a erlidir gan gorwynt;fe'i gwasgarwyd fel mwg gan y gwynt;aeth heibio fel atgof am ymwelydd unnos.

15. Ond y mae'r cyfiawn yn byw am byth;yng nghwmni'r Arglwydd bydd eu gwobr,a bydd gofal amdanynt gan y Goruchaf.

Doethineb Solomon 5