Doethineb Solomon 4:11-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Fe'i cipiodd ymaith rhag i ddrygioni wyrdroi ei ddeallneu i ddichell dwyllo'i enaid.

12. Oherwydd y mae hud oferedd yn bwrw daioni i'r cysgod,a chwirligwgan chwant yn troi pen y diniwed.

13. Yng nghyflawniad oes fer cwblhaodd hir flynyddoedd.

14. Yr oedd ei enaid wrth fodd yr Arglwydd;dyna pam y brysiodd ef i'w dynnu o ganol drygioni.Ond er iddynt weld, ni ddeallodd y cenhedloeddy fath ddigwyddiad, na dwyn i ystyriaeth

15. fod gras a thrugaredd gan Dduw i'w etholedigion,a chymorth amserol i'w saint.

16. Bydd y cyfiawn a fu farw yn condemnio'r annuwiol sy'n dal i fyw,a'r ifanc, a ddaeth i ddiwedd cynnar, yn condemnio hirhoedledd yr anghyfiawn.

17. Y mae'r rhieni'n gweld diwedd y doeth,heb fod ganddynt syniad am fwriadau'r Arglwydd amdano,a'i ddiben wrth ei ddwyn i ddiogelwch.

Doethineb Solomon 4