Doethineb Solomon 4:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwell bod heb blant a bod gennym rinwedd,oherwydd yn yr atgof amdani y daw anfarwoldeb,gan yr arddelir hi gan Dduw a hefyd gan bobl.

2. Yn ei gŵydd fe'i hefelychir,a hiraethir amdani yn ei habsen;ac yn yr oes a ddaw, bydd yn gorymdeithio â thorch am ei phen,wedi mynd â'r gamp ac ennill gwobr anllygredigaeth.

3. Ond ni bydd eu hepil toreithiog o les i'r annuwiol,am na all yr un eginyn bastardaidd fwrw gwreiddyn yn ddwfnna daearu'n gadarn.

4. Oherwydd er i'w ganghennau flaguro am dymor,gan nad oes iddo gadernid daear fe'i hysgydwir gan y storma'i ddiwreiddio gan rym y gwyntoedd.

5. Rhwygir ei frigau i ffwrdd cyn dod i'w llawn dwf;bydd ei ffrwyth yn ddiwerth ac anaeddfed i'w fwyta,heb fod yn dda i ddim yn y byd.

6. Oherwydd bydd plant a genhedlir o gydorwedd anghyfreithlonyn dystiolaeth i bechod eu rhieni yn nydd yr archwiliad arnynt.

7. Ond bydd y cyfiawn, er iddo farw'n gynnar, yn gorffwys mewn hedd.

8. Nid hirhoedledd sy'n rhoi ei werth i henaint,ac nid amlder blynyddoedd yw ei fesur.

9. Nage, dealltwriaeth sy'n rhoi urddas penwynni i bobl,a bywyd difrycheulyd a ddyry iddynt aeddfedrwydd henaint.

10. Yr oedd gŵr yr ymhyfrydodd Duw ynddo a'i garu;am ei fod yn byw ymhlith pechaduriaid, fe'i cymerodd ef ato'i hun.

11. Fe'i cipiodd ymaith rhag i ddrygioni wyrdroi ei ddeallneu i ddichell dwyllo'i enaid.

12. Oherwydd y mae hud oferedd yn bwrw daioni i'r cysgod,a chwirligwgan chwant yn troi pen y diniwed.

Doethineb Solomon 4