Doethineb Solomon 2:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Dyna'u hymresymiad, ond aethant ar gyfeiliorn,am i'w drygioni eu dallu.

22. Nid oedd ganddynt wybodaeth am ddirgelion Duw,na gobaith am wobr sancteiddrwydd,nac amcan am fraint eneidiau di-fai;

23. oherwydd mewn anllygredigaeth y creodd Duw ddyna'i wneud ar ddelw ei dragwyddoldeb ef ei hun.

24. Ond trwy genfigen y diafol y daeth angau i'r byd,ac y mae'r rhai sydd o'i blaid ef yn cael profiad ohono.

Doethineb Solomon 2