Doethineb Solomon 2:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedasant wrthynt eu hunain, gan resymu ar gam:“Byr a blinderus yw ein bywyd;nid oes iachâd pan ddown i ddiwedd ein hoes,ac ni wyddom am neb a ddaeth yn ôl o'r bedd.

2. Ar hap y'n ganwyd ni,ac yn y fan byddwn fel pe baem heb fod;mwg yw'r anadl yn ein ffroenau,a gwreichionen yn tasgu o guriad y galon yw ein rheswm.

3. Pan ddiffoddir hi, lludw fydd y corff,a'r ysbryd yn diflannu fel tarth ysgafn.

4. Gollyngir ein henw i ebargofiant ymhen amser,ac angof fydd ein gweithredoedd gan bawb.Mynd heibio y bydd ein heinioes fel olion cwmwl,a'i gwasgaru fel niwla erlidir gan belydrau'r haulac a lethir gan drymder ei wres.

5. Oherwydd cysgod yn mynd heibio yw ein hoedl,ac nid oes dychwelyd oddi wrth ein diwedd;seliwyd ein tynged, ac ni all neb droi yn ei ôl.

Doethineb Solomon 2