1. Dywedasant wrthynt eu hunain, gan resymu ar gam:“Byr a blinderus yw ein bywyd;nid oes iachâd pan ddown i ddiwedd ein hoes,ac ni wyddom am neb a ddaeth yn ôl o'r bedd.
2. Ar hap y'n ganwyd ni,ac yn y fan byddwn fel pe baem heb fod;mwg yw'r anadl yn ein ffroenau,a gwreichionen yn tasgu o guriad y galon yw ein rheswm.
3. Pan ddiffoddir hi, lludw fydd y corff,a'r ysbryd yn diflannu fel tarth ysgafn.
4. Gollyngir ein henw i ebargofiant ymhen amser,ac angof fydd ein gweithredoedd gan bawb.Mynd heibio y bydd ein heinioes fel olion cwmwl,a'i gwasgaru fel niwla erlidir gan belydrau'r haulac a lethir gan drymder ei wres.
5. Oherwydd cysgod yn mynd heibio yw ein hoedl,ac nid oes dychwelyd oddi wrth ein diwedd;seliwyd ein tynged, ac ni all neb droi yn ei ôl.
6. Dewch, felly, mwynhawn bob difyrrwch sy'n bod;ymrown ag asbri ieuenctid i bleserau'r greadigaeth.
7. Mynnwn ein gwala o win drudfawr ac o beraroglau,a pheidied hoen y gwanwyn â mynd heibio inni.
8. Plethwn am ein pennau dorch o rosod yn eu blagur cyn iddynt wywo.
9. Peidied neb ohonom â bod heb ei gyfran o'n gloddesta;gadawn arwyddion ein rhialtwch ym mhobman,am mai dyma'n rhan a dyma'n cyfran.
10. Gorthrymwn y tlawd cyfiawn;peidiwn ag arbed y weddw;gwrthodwn barchu hirhoedledd penwyn yr henwr.
11. I ni boed grym yn gyfraith cyfiawnder,am inni brofi bod gwendid yn gwbl ddi-fudd.
12. Gosodwn fagl ar gyfer y cyfiawn, am iddo sefyll ar ein ffordda rhwystro ein gweithgareddau;y mae'n edliw i ni ein troseddau yn erbyn y gyfraith,ac yn dannod i ni ein troseddau yn erbyn ein magwraeth.
13. Y mae'n honni bod ganddo wybodaeth o Dduw,ac yn ei alw ei hun yn blentyn yr Arglwydd.
14. Fe'i cawsom yn gerydd ar ein cynlluniau,a gwrthun i ni yw hyd yn oed edrych arno.
15. Oherwydd annhebyg yw yn ei fuchedd i bawb arall,a chwbl ar wahân yw ei lwybrau.
16. Cyfrifwyd ni ganddo yn arian gau,a'n rhodiad yn aflendid i ymochel rhagddo.Gwynfydedig y geilw ef ddiwedd y rhai cyfiawn,a'i ymffrost yw fod Duw yn dad iddo.