Doethineb Solomon 1:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ni chaiff doethineb ddod i mewn i'r enaid dichellgarnac ymgartrefu mewn corff sy'n wystl i bechod.

5. Bydd ysbryd sanctaidd addysg yn ffoi oddi wrth dwyll,ac yn cilio ymhell oddi wrth gynlluniau anneallus,ac yn cywilyddio pan ddaw anghyfiawnder i'r golwg.

6. Ysbryd dyngarol yw doethineb,ond ni all ddyfarnu'n ddieuog un sy'n cablu â'i wefusau,am fod Duw'n dyst o'i deimladau dyfnaf,yn archwiliwr cywir o'i feddyliauac yn wrandawr ar ei eiriau.

7. Gan fod ysbryd yr Arglwydd wedi llenwi'r holl fyd,a'r ysbryd sy'n dal y cyfanfyd ynghyd yn adnabod pob llais,

8. am hynny ni fydd neb sy'n llefaru geiriau anghyfiawn yn dianc,ac ni fydd y farn byth yn mynd heibio iddo heb ei gondemnio.

9. Oherwydd archwilir cynllwynion yr annuwiol,ac adroddir ei eiriau wrth yr Arglwydd,i'w gondemnio am ei droseddau.

Doethineb Solomon 1