Diarhebion 8:5-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Chwi, y rhai gwirion, dysgwch graffter,a chwithau, ffyliaid, ceisiwch synnwyr.

6. Gwrandewch, oherwydd traethaf bethau gwerthfawr,a daw geiriau gonest o'm genau.

7. Traetha fy nhafod y gwir,ac y mae anwiredd yn ffiaidd gan fy ngenau.

8. Y mae fy holl eiriau yn gywir;nid yw'r un ohonynt yn ŵyr na thraws.

9. Y mae'r cyfan yn eglur i'r deallus,ac yn uniawn i'r un sy'n ceisio gwybodaeth.

10. Derbyniwch fy nghyfarwyddyd yn hytrach nag arian,oherwydd gwell yw nag aur.

11. Yn wir, y mae doethineb yn well na gemau,ac ni all yr holl bethau dymunol gystadlu â hi.

12. Yr wyf fi, doethineb, yn byw gyda chraffter,ac wedi cael gwybodaeth a synnwyr.

13. Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni;yr wyf yn ffieiddio balchder ac uchelgais,ffordd drygioni a geiriau traws.

14. Fy eiddo i yw cyngor a chraffter,a chennyf fi y mae deall a gallu.

15. Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd,ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn.

16. Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod,ac y barna penaethiaid yn gyfiawn.

17. Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i,ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael.

18. Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd,digonedd o olud a chyfiawnder.

19. Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth,a'm cynnyrch yn well nag arian pur.

20. Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder,ar ganol llwybrau barn,

Diarhebion 8